Dewiswch yr opsiwn ar y gwymplen isod sy'n cyfateb yn fwyaf addas i'ch ymholiad. Sicrhewch fod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei darparu gan y bydd yn galluogi'r tîm i ymdrin â'ch ymholiad yn effeithlon.
Os ydych wedi derbyn llythyr adennill, fel hysbysiad atgoffa gwyrdd neu hysbysiad terfynol, neu wŷs i'r llys, gwnewch eich ymholiad yma.Os ydych yn cynnig trefniant talu, defnyddiwch yr opsiwn 'trefniant talu'.
Fel arfer telir eich taliadau Treth Gyngor dros 10 rhandaliad misol o Ebrill i Ionawr. Gall hyn newid os ydych wedi cael eich bilio rhan o’r ffordd drwy'r flwyddyn, neu os yw eich cyfrif wedi'i addasu'n ddiweddar. Gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn i awgrymu cynllun talu mwy addas. Os nad ydych yn gwybod eich balans cyfredol, bydd balans cyffredinol eich cyfrif yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y nifer sy'n weddill o randaliadau.Sylwer bod eich cynnig talu yn amodol ar gymeradwyaeth ac nad yw'n sicr o gael ei dderbyn.
Mae gan aelwydydd sydd â dim ond oedolyn hawl i ostyngiad person sengl o 25%. Defnyddiwch yr opsiwn hwn os ydych yn dymuno gwneud cais am y gostyngiad neu roi gwybod i ni nad ydych bellach yn gymwys i gael eich gostyngiad.
Mae nifer o amgylchiadau lle gall eiddo gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor Gweler this page am restr o ostyngiadau cyffredin. Os ydych yn holi am Ostyngiad Treth Gyngor oherwydd enillion isel neu eich sefyllfa ariannol, cliciwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth.Byddwch yn derbyn naill ai ateb e-bost gyda'r camau nesaf neu ffurflen gais drwy'r post wedi i chi gadarnhau pa ostyngiad yr hoffech wneud cais amdano.
Mae nifer o amgylchiadau lle gall eiddo gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor Gweler this page am restr o eithriadau. Mae rhai eithriadau cyffredin wedi'u cynnwys ar y gwymplen, defnyddiwch yr opsiwn 'Eithriad Arall' os nad yw ar y rhestr
Dosbarth Eithrio A
Mae'r eithriad hwn ar gael am uchafswm o 12 mis ar gyfer eiddo sydd heb eu meddiannu a heb ddodrefn ac y mae gwaith strwythurol mawr yn digwydd arnyn nhw neu fod angen gwaith o’r fath.
Mae'r eithriad hwn fel arfer yn amodol ar ymweliad gan ein harolygydd. Bydd yr arolygydd yn cysylltu â chi ar ôl i'ch cais ddod i law i drefnu amser a dyddiad addas i'r eiddo gael ei archwilio. Ar gyfer ceisiadau ôl-weithredol, atodwch dystiolaeth gan ddefnyddio opsiwn 'uwchlwytho dogfen' y ffurflen.
Dosbarth Eithrio C
Mae'r eithriad hwn ar gael am uchafswm o 6 mis ar gyfer eiddo sydd heb eu meddiannu a heb ddodrefn. Caiff hyn ei achosi'n gyffredin gan rwymedigaethau'n gorgyffwrdd adeg symud eiddo neu atebolrwydd landlord rhwng tenantiaid tra bo'r eiddo'n wag.
Ar gyfer ceisiadau ôl-weithredol (3 mis cyn dyddiad heddiw) bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth annibynnol i gefnogi hyn, e.e. cadarnhad gan eich asiant tai neu gontractwyr a allai fod wedi gwneud gwaith yn ystod y cyfnod gwag dan sylw. Ar gyfer ceisiadau ôl-weithredol, atodwch dystiolaeth gan ddefnyddio opsiwn 'uwchlwytho dogfen' y ffurflen.
Dosbarth Eithrio N
Mae myfyrwyr llawn amser wedi'u heithrio o'r Dreth Gyngor. Bydd eich sefydliad addysgol (ysgol, coleg neu brifysgol) yn gallu rhoi Tystysgrif Treth Gyngor Myfyrwyr i chi os ydych ar gwrs llawn amser cymwys. Dim ond pan fydd eiddo'n cael ei feddiannu'n gyfan gwbl gan fyfyrwyr y mae'r eithriad hwn ar gael; os oes dau oedolyn a dim ond un sy'n fyfyriwr dyfernir gostyngiad o 25%.
Atodwch eich tystysgrif gan ddefnyddio'r opsiwn 'uwchlwytho dogfen' ar waelod y ffurflen. Byddwn yn cymhwyso'r gostyngiad yn awtomatig ar gyfer y cyfnod a gwmpesir ar y dystysgrif os bydd amgylchiadau'r cartref yn caniatáu hynny.
Eithriad Arall
Os ydych yn teimlo y gallech fod yn gymwys i gael eithriad, rhowch ragor o fanylion isod a byddwn yn anfon y ffurflen gais briodol atoch.
Sylwer y gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol ar rai eithriadau. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy'r post, drwy e-bost neu dros y ffôn i drafod y cais.
Y ffordd fwyaf cyffredin o dalu’r Dreth Gyngor yw drwy ddebyd uniongyrchol. Defnyddiwch y ddolen hon i roi eich manylion banc. Mae 4 dyddiad ar gael ar gyfer taliad debyd uniongyrchol, 1af, 9fed, 18fed a 27ain. Gallwch newid eich dyddiad talu ar yr amod y cawn o leiaf 10 diwrnod gwaith o rybudd cyn bod eich taliad nesaf i’w gasglu. Mae pob un o'r 4 dyddiad ar gael rhwng mis Ebrill a mis Chwefror, dim ond y 27ain sydd ar gael ym mis Mawrth. Os hoffech newid eich amserlen i opsiwn 12 misol, nodwch hyn isod yn y maes 'gwybodaeth ychwanegol'; sylwer, os byddwch yn dewis 12 mis caiff eich dyddiad talu yn cael ei ddiwygio i'r 27ain.
Rhowch ddigidau cyfatebol eich Rhif Cyfrif Banc
Sylwer bod galwadau'n cael eu gwneud yn ystod oriau swyddfa yn unig (08:30-17:00 Llun-Iau, 08:30-16:30 Dydd Gwener)
Cydymdeimlwn â chi yn eich colled. Os gallech ddarparu rhai o'r manylion isod, gallwn gyhoeddi unrhyw ohebiaeth briodol.
Mae'r opsiwn hwn ar gyfer Asiantau Gosod a Chymdeithasau Tai YN UNIG. Ni fydd cyflwyniadau nad ydynt gan asiant neu gymdeithas dai yn cael eu prosesu.
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) – Caiff y wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon ei thrin yn gyfrinachol a’i phrosesu a'i dadansoddi ar system gyfrifiadurol sydd wedi'i chofrestru o dan ofynion y Rheoliadau. Dim ond ar gyfer y canlynol y caiff ei defnyddio: I sefydlu atebolrwydd dros y Dreth Gyngor a chymhwysedd ar gyfer mathau eraill o ryddhad a lwfansau statudol mewn perthynas â'r Dreth Gyngor;Gan gyflogeion awdurdodedig a chyrff allanol cofrestredig (Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yr Asiantaeth Budd-daliadau); aDarparu ar gyfer rheoli, gweinyddu a chasglu'r Dreth Gyngor Rhaid i ni ddiogelu’r cyllid cyhoeddus rydym yn ei drin ac felly mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gennych ar y ffurflen hon i atal a chanfod twyll. Hefyd gallwn ni rannu’r wybodaeth hon at yr un dibenion â sefydliadau eraill sy’n trin cyllid cyhoeddus.