Tyllau yn y ffordd
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am atgyweirio ceudyllau dros 40mm (tua 1.5 modfedd) o ran dyfnder neu led. Mae hefyd yn gyfrifol am ddiffygion ar lwybrau troed sydd dros 20mm o ran dyfnder, lled neu uchder (tua maint darn 50 ceiniog). Dylid ond defnyddio'r ffurflen hon i adrodd achosion nad ydynt yn rhai brys. Os ydych yn teimlo bod y ceudwll yn beryglus, cysylltwch â Contact OneVale, ein llinell gymorth 24 awr ar 01446 700111. Er mwyn i ni sicrhau ein bod yn ymchwilio'n llawn i'r mater hwn, nodwch union leoliad y digwyddiad, ac unrhyw wybodaeth arall a all fod o gymorth gyda'r ymholiad hwn. Diolch