Cofrestru i Siarad mewn Pwyllgor Craffu

Pwyllgor Craffu Tai a Chymunedau Diogel

Sylwch y bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ffrydio'n fyw a'i gofnodi at bwrpas archif yn amodol ar unrhyw faterion technegol a brofir ar y diwrnod. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich recordio yn weledol ac mewn sain ac mae hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.

Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor.

Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cydnabod bod aelodau'r cyhoedd yn medru gwneud cyfraniad pwysig ac yn medru bod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth. O'r herwydd, hoffai'r Cyngor wahodd aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan weithgar o fewn y prosesau Craffu yn y Fro.

Os ydych chi'n dymuno siarad am bwnc sy'n cael ei drafod mewn Pwyllgor Craffu, croeso i chi lenwi'r ffurflen hon a'i hanfon aton ni.

Dylech chi nodi bod y ffurflen hon yn caniatáu i chi gofrestru i drafod un pwnc sydd ar Agenda'r Pwyllgor Craffu perthnasol. Os ydych yn dymuno trafod Eitem Agenda arall, llenwch ffurflen gais arall os gwelwch yn dda.

Dylid cyflwyno ffurflenni, dim hwyrach na 17:00 dri diwrnod gwaith clir cyn a heb gynnwys diwrnod y cyfarfod. Er enghraifft, os cynhelir y cyfarfod ar ddydd Mawrth, dylai ceisiadau i siarad ddod i law erbyn 17.00 ar y dydd Mercher blaenorol.

Os oes gennych ymholiad, neu os oes problem dechnegol yn codi, cysylltwch ag Adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu ar 01446 709249.

A version of this form is available in English