Bydd angen tystiolaeth o breswylfa a pherchnogaeth cerbyd ar gyfer pob cais newydd. Dim ond un drwydded y gellir ei rhoi i bob gyrrwr.
Dim ond yn y stryd/parth yr ydych yn gwneud cais amdano y mae trwydded yn ddilys, fel y dangosir ar y drwydded.
RHAID dychwelyd eich hen drwydded o dan unrhyw amgylchiadau.
Ni ellir trosglwyddo'r drwydded. A ddylid newid unrhyw amgylchiadau, e.e. newid deiliad tŷ/cerbyd, RHAID dychwelyd y drwydded , a chael trwydded newydd, gan ddarparu tystiolaeth fel yr amlinellir uchod.
Os yw eich cerbyd yn gar cwmni, rhaid cyflwyno llythyr gan eich cyflogwr yn nodi'r rhif cofrestru ac yn dweud mai dim ond chi sy’n defnyddio’r cerbyd.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/Parking/Resident-Parking-Permits.aspx
Atebwch y cwestiwn isod
Sylwer: Rhaid i’ch cerbyd beidio â bod yn uwch na 2.44m (8 troedfedd) nac yn hirach na 5.49m (18 troedfedd). Fodd bynnag, mewn Ardaloedd Parcio â Thrwydded Breswylwyr dynodedig lle nad oes mannau wedi’u marcio, bydd carafanau modur a faniau gwersylla sy’n uwch na 2.44 metr ac yn hirach na 5.49 metr, neu sy’n fwy na’r uchafswm màs, sef 3.5 tunnell, yn gymwys ar gyfer trwydded parcio i breswylwyr ar yr amod bod y cerbyd wedi’i gofrestru yn yr eiddo. NI chaniateir trwyddedau ymwelwyr ar gyfer cerbydau o’r fath yn yr ardaloedd hyn..
Datganiadau
Mae'r gan yr awdurdod ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinydda, ac at y diben hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio a gweinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn. Bydd y wybodaeth a ddefnyddir yn cael ei defnyddio i benderfynu a oes gennych hawl i drwydded barcio ac, os felly, ei gweinyddu. Llofnodaf y ffurflen gais hon gan wybod y byddaf yn agored i gael fy erlyn os wyf yn fwriadol wedi rhoi unrhyw beth y gwn ei fod yn anwir neu na